//
you're reading...
Community Archaeology

Gwybodaeth gefndir am siambr gladdu St Lythan’s…

Beddrod siambr Neolithig hardd yw St Lythan’s, sydd heddiw’n sefyll yn unig ond yn falch. Mae gan y safle leoliad gwych yn y tirlun ryw 70m OD ar dir sy’n syrthio’n raddol tua’r gogledd-orllewin yn agos i flaen Dyffryn Waycock.

Golwg fanwl ar siambr St Lythan’s

Er ei bod yn llai na siambr gladdu Tinkinswood i lawr y ffordd, mae siambr St Lythan’s yn llawer mwy trawiadol, am ei bod yn uwch ac am nad oes coed o’i hamgylch. Mae’n debyg bod y llechau anferth yn dod o safle tua 90 metr i’r de, lle mae’n dal yn bosibl gweld carreg laid agored. Mae’r garnedd ei hun yn gorwedd ar hyd y bryn. Heneb amlwg iawn yw hi ac mae wedi’i disgrifio ac wedi’i hasesu sawl tro ers 1874, ond heb gael ei chloddio erioed. Mae o dan warcheidiaeth Cadw ers 1918.

Mae Llwyneliddon yn gorwedd o’r dwyrain i’r gorllewin, ac mae’n bosibl bod yna dwmpath o bridd neu o gerrig drosti ar un adeg, er bod rhai yn credu na chafodd y siambr mo’i gorchuddio’n llwyr erioed, am ei bod mor anarferol o uchel.

Er nad yw’r safle wedi cael ei chloddio, fe ddaeth gweddillion dynol a chrochenwaith i’r golwg ym 1875 pan gafodd y tu mewn i’r siambr ei chlirio. Carreg laid yw pob un o’r llechau trawiadol eu golwg. Mae’r tu mewn i’r ddau borthfaen wedi’i llyfnhau ac mae gan y garreg yn y cefn bortwll; mae nodwedd debyg i’w gweld ar Goeten Trethevy yng Nghernyw.

Yr hyn sydd yma yw siambr betryal sydd wedi’i gosod ym mhen dwyreiniol twmpath hir, sy’n mesur tua 27 metr o’r dwyrain i’r gorllewin wrth 11 metr, ac sy’n rhyw fetr o uchder ar y mwyaf. Mae’n ymddangos bod ochrau’r top gwastad yn gyfochrog â’i gilydd, a rhyw 7m rhyngddyn nhw, ac mae’r pen gorllewinol yn weddol sgwâr ei siâp, sy’n awgrymu bod yr heneb gyfan wedi bod yn debyg i Tinkinswood o ran ei chynllun. Serch hynny, does dim sôn am waliau cynnal sych fel y rhai yn Tinkinswood.

Mae pob un o’r tair llech yn cynnal y garreg gapan enfawr, sy’n gogwyddo ychydig tua’r dwyrain; yr un garreg ag yn Tinkinswood yw’r rhain i gyd. Cafwyd gweddillion dynol a chrochenwaith bras ym 1875 yn y malurion a gafodd eu taflu o’r siambr fewnol, ac sydd bellach yn llenwi rhan o’r pant yn y cwrt blaen gwreiddiol ym mhen dwyreiniol y twmpath.
Ar ôl i wartheg erydu’r llecyn yn wael ym 1992 daeth deunydd oddi tan bridd y garnedd i’r golwg yn y siambr ar ochr y gogledd. Ar hap yn sgil hyn, ym 1992 daeth Toby Driver o hyd i damaid o fwyell garreg loyw a fflawiau callestr – rhai wedi’u hail-weithio – ar yr wyneb. Ynghyd â phen saeth cain o gallestr ar siâp deilen a gafwyd ar wahân yn yr un man agored, mae’r rhain wedi’u gosod yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd. Cafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi yn Archaeologia Cambrensis, 1992, ac maen nhw’n ychwanegiad o bwys at ganfyddiadau Lukis ym 1875 sydd heb gael eu cofnodi’n dda iawn. Yn sgil y canfyddiadau hyn, cafodd gwaith cadwraeth ei wneud ar yr erydiad gwael ar y beddrod yn gynnar yn y 1990au gan ailosod y pridd a’r tyweirch i orchuddio’r mannau agored.

Yn gynnar yn y 19eg ganrif, roedd y siambr yn cael ei hadnabod fel Carnedd y Filiast a’i defnyddio i gysgodi anifeiliaid. Yn ôl un traddodiad, mae’r cae lle mae’r meini wedi’i felltithio, a does dim byd yn gallu tyfu yno. Roedd yna gred bod y meini eu hunain yn gwireddu unrhyw ddymuniad, ond ichi sibrwd iddyn nhw ar Nos Galan Gaeaf. Yn ôl chwedl arall, mae’r garreg gapan yn troi dair gwaith bob Nos Ganol Haf; mae’r stori hon yn cyd-fynd ag un o hen enwau’r beddrod, sef Maesyfelin. Ar yr un noson, dywedir bod y meini i gyd yn mynd i’r afon i ymdrochi.

About FfionR

I’m Ffion, archaeological researcher at Cardiff University and Heritage and Arts Manager for Cadw, the historic environment service for the Welsh Government. At Cadw, my role is to oversee projects that link heritage with the arts, inspire new ways of engaging people with our built environment and to link people with their local heritage and archaeology.

Discussion

No comments yet.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s

Cadw

Manchester Metropolitan University

Heritage Together

Cyngor Archaeoleg Prydain / Council of British Archaeology

Cadw Archaeology

Error: Twitter did not respond. Please wait a few minutes and refresh this page.

Dilynwch fi ar Trydar | Follow me on Twitter

%d bloggers like this: