//
you're reading...
Uncategorized

Gwybodaeth gefndir am siambr gladdu Tinkinswood…

Mae cyflwr Tinkinswood heddiw wedi’i adfer yn sgil gwaith cloddio helaeth ym 1914 gan John Ward, Ceidwad Archaeoleg cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Adluniad Tinkinswood yn ôl John Ward

Mae’n rhoi syniad da o sut y byddai beddrodau megalithig fel hyn wedi ymddangos yn y gorffennol, er y byddai twmpath o bridd wedi bod dros y garreg gapan a’r ochr ddeheuol yn wreiddiol. Mae’n sefyll ar lethrau dyffryn sy’n edrych i’r de-orllewin tuag at y Barri. Mae’r safle’n gorwedd uwchlaw nant fach, sydd wedi torri drwy’r calchfaen. O ran y ddaeareg, mae mewn ardal a gafodd ei ffurfio yn y cyfnod Triasig. Byddai wedi bod yn fan deniadol i bobl y cyfnod Neolithig Cynnar weithio ac anheddu, gan fod cyflenwad dŵr gerllaw, pridd sy’n addas i gael ei drin, ac amrywiaeth o ddefnyddiau lithig ar gael yn lleol. Mae darnau sylweddol o’r graig i’w gweld yn agored i’r chwith wrth ichi ddod at Tinkinswood, a gallwch weld trwch llawn y darnau mawr gwastad. Mae’r safle hwn yn cael ei adnabod fel y ‘Chwarel’ – sef enw sy’n codi yn ôl pob tebyg am fod y lle’n edrych fel chwarel, ac am ei fod wedi’i gydnabod fel lle addas i gloddio am gerrig. Mae’n bosibl mai dyma darddiad y cerrig llaid sydd wedi’u defnyddio yn Tinkinswood ei hun. Bydd yr ardal yn cael ei chlirio i ddatgelu’r cerrig. Dyma sut mae’n edrych heddiw:

Safle’r chwarel segur bosibl, fel y mae heddiw

Petryal yn fras yw amlinelliad claddfa Tinkinswood, a wal gynnal y tu allan iddi. Yn y pen dwyreiniol ceir cwrt bas a llydan sy’n arwain at siambr betryal syml yn y pen draw, sef siambr ac un gell yn unig. Un anferth yw’r garreg gapan (7m wrth 4.6m wrth 1m o drwch), ac mae’n pwyso mwy na 40 tunnell – sef yr un fwyaf yng Nghymru. Mae’r fynedfa i’r siambr yn gul ac mae’n cyfeirio tuag at ochr ogleddol arwyneb gwastad cefn y cwrt. Cafwyd hyd i weddillion mwy na 50 o unigolion yn y siambr, ynghyd ag ychydig o deilchion crochenwaith a darnau o gallestr wedi’i naddu. Dangosodd astudiaeth ar y gweddillion dynol fod y siambr yn cael ei defnyddio tua 3700 cal. CC. Bowlen Bicer pur anghyffredin o’r Oes Efydd oedd y math mwyaf diweddar o grochenwaith a gafwyd, ac mae’n debyg bod honno wedi’i gosod o fewn cyfres o ddeunyddiau sydd wedi’u defnyddio i gau tyllau.

Mae rhai o waliau’r cwrt blaen wedi cael eu hailgodi, gan ddangos y gwaith newydd drwy ddefnyddio patrwm saethben yn y meini; mae colofn fodern wedi’i gosod yn y siambr i helpu i gynnal y garreg gapan. Rwbel a blociau carreg yw prif gorff y garnedd. Mae sawl llech ehangach yng ngwaith maen y garnedd yn awgrymu bod strwythurau yma cyn y garnedd ei hun, neu efallai fod claddedigaethau eilaidd wedi’u gosod yn y twmpath yn nes ymlaen.

Mae un gist sylweddol sydd wedi’i leinio â llechau ar yr ochr ogleddol yn dal yn agored i bobl gael ei gweld. Awgrymwyd bod hon bron yn sicr yn siambr eilaidd, gan fod nifer o weddillion dynol datgymalog wedi’u canfod yn y gist ac yn ei hymyl, ynghyd ag ambell damaid o esgyrn anifeiliaid, sef moch, ychen a defaid. Heblaw’r rhai yn y siambr ac yn agos i’r siambr, dyma’r unig weddillion dynol a gafwyd yn ystod y gwaith cloddio gwreiddiol, a heblaw am ambell un prin dyma’r un esgyrn anifeiliaid a welwyd.

Y gist ddirgel a’i llechau – claddedigaeth eilaidd a osodwyd yn y twmpath yn nes ymlaen, o bosibl

Nodwedd ryfedd arall ar y garnedd, na allwch ei gweld heddiw, yw sawl rhes o gerrig sydd wedi’u gosod mewn llinell o’r gogledd i’r de y tu mewn i’r garnedd. Pan gafodd y rhesi hyn eu cloddio’n wreiddiol, y gred oedd eu bod yn weddillion llociau eraill tebyg i’r gist. Ond o edrych yn fanylach, ac yng ngoleuni sawl astudiaeth gymharol, mae’n bosibl mai sefydlogi’r strwythur oedd bwriad y rhain, drwy atal y naill adran rhag llithro i’r llall. Hyd yn oed wedyn, yn achos Tinkinswood dydy’r rhain ddim yn ymddangos yn ddigon sylweddol i ateb y diben yma. Fel arall, mae rhai wedi dadlau bod yr arfer yma yn adlewyrchu rhaniad llafur, a bod gwahanol deuluoedd yn gyfrifol am lenwi eu hadran nhw eu hunain, sy’n golygu mai gwaith cymunedol oedd codi Tinkinswood.

Mae nifer o straeon gwerin wedi codi ynglŷn â’r beddrod dros y blynyddoedd. O blith y rhain, y chwedl fwyaf adnabyddus yw y byddai unrhyw un a fyddai’n cysgu’r nos ar y safle ar noswyl Calan Mai, noswyl Gŵyl Ifan (23 Mehefin), neu noswyl Canol Gaeaf yn marw, yn mynd yn orffwyll neu’n troi’n fardd. Maen nhw’n dweud mai menywod sydd wedi’u troi’n gerrig am ddawnsio ar y Sabath yw’r grŵp o glogfeini i’r de o’r heneb: a dyma thema gyffredin yn llên gwerin safleoedd megalithig, yn union fel y Merry Maidens yng Nghernyw.

Mae’r blogiad yma wedi’i seilio ar gyfuniad o adnoddau ar-lein.

 

About FfionR

I’m Ffion, archaeological researcher at Cardiff University and Heritage and Arts Manager for Cadw, the historic environment service for the Welsh Government. At Cadw, my role is to oversee projects that link heritage with the arts, inspire new ways of engaging people with our built environment and to link people with their local heritage and archaeology.

Discussion

No comments yet.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s

Cadw

Manchester Metropolitan University

Heritage Together

Cyngor Archaeoleg Prydain / Council of British Archaeology

Cadw Archaeology

Error: Twitter did not respond. Please wait a few minutes and refresh this page.

Dilynwch fi ar Trydar | Follow me on Twitter

%d bloggers like this: